Gwrthryfel Merthyr 2014
Bydd Mai 31ain yn gweld gŵyl sydd yn dathlu un o’r safiadau cynharaf gan weithwyr mewn protest yn erbyn cyflogau isel ac amodau echrydus yn y gweithfeydd haearn a phyllau glo, sef Gwrthryfel Merthyr 1831.Nod yr Ŵyl hon yw dathlu hanes a diwylliant radicalaidd y dre, gan gynnig cyfle i drafod yr heriau sydd yn wynebu pobl Merthyr, Cymru a’r byd heddiw.
Bydd yr Ŵyl yn cynnwys ystod eang o siaradwyr, perfformwyr, cerddorion, gwneuthurwyr ffilm ac awduron o Gymru a thu hwnt. Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd cyngerdd gyda’r athrylith Gruff Rhys gyda chefnogaeth cantorion lleol Kizzy Crawford, Fingertrap a Delyth McLean.Yn y prynhawn fe fydd yr economegydd John Weeks yn siarad ar y thema ‘Economeg yr 1%’ ac fe fydd y gwneuthurwr ffilm lleol Jon Owen yn dangos ei ffilm gomedi newydd ‘Svengali’. Bydd 30 mlynedd ers streic y glowyr yn cael ei nodi trwy ddangos gwaith pwerus Karl Francis ‘Miss Rhymney Valley 1985’ a pherfformiadau gan Y Beirdd Coch a’r canwr lleol Jamie Bevan.
Canolbwynt yr Ŵyl fydd Canolfan a Theatr Soar gyda digwyddiadau ymylol o gwmpas y dre.Mae croeso i gynrychiolwyr sefydliadau gymryd stondin yn yr Ŵyl ac mae’r gost o £10 yn caniatáu mynediad i’r digwyddiadau dydd.